Fe fydd enw enillydd y ras am arweinyddiaeth UKIP Cymru yn cael ei gyhoeddi fory, a hynny yn Nyfnaint, Lloegr.

Gan mai swyddogion ym mhencadlys y blaid Brydeinig yn Newton Abbot a drefnodd yr etholiad, yn y fan honno y bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud.

Yn ôl ffynhonnell, does gan UKIP Cymru ddim yr adnoddau i drefnu’r etholiad ac felly dyna pam mai’r blaid yn Lloegr sydd wedi cymryd yr awenau.

Mae tri yn sefyll i arwain y grŵp o bump yn y Cynulliad – Caroline Jones, Neil Hamilton a Gareth Bennett.

Daw’r bleidlais wedi i garfan o’r grŵp gefnu ar Neil Hamilton a phenderfynu eu bod nhw am i Caroline Jones eu harwain yn ei le.

Ond taniodd Neil Hamilton etholiad arall drwy ddweud ei fod am herio Caroline Jones i hawlio ei arweinyddiaeth yn ôl.

Ac er ei fod wedi cefnogi Neil Hamilton yn y gorffennol, dywedodd, Gareth Bennett, sydd eisiau diddymu’r Cynulliad a thorri nôl ar wariant cyhoeddus ar y Gymraeg, ei fod hefyd eisiau arwain.