Tudur Dylan Jones yw’r meuryn sydd wedi gweithredu am y cyfnod di-dor hiraf ers canol y ganrif ddiwethaf.

Oddi ar 1951, does yr un tafolwr wedi gwneud y gwaith o farcio tasgau’r timau yn y Babell Lên 16 o weithiau. Dyna garreg filltir y prifardd cadeiriol a choronog eleni yng Nghaerdydd.

Fe gafodd y diweddar Gerallt Lloyd Owen gyfnodau rhwng 1978 ac 1989, ac wedyn rhwng 1992 a 2002.

Fe gafodd Dic Jones a John Gwilym Jones hefyd gyfnodau yn sedd y Meuryn, cyn i Tudur Dylan Jones gymryd yr awenau yn 2003.