Bydd y Senedd ym Mae Caerdydd yn cael ei dychwelyd i ddwylo’r Cynulliad am gyfnod byr bnawn heddiw – a hynny er mwyn croesawu’r seiclwr Geraint Thomas heb dorri rheol iaith yr Eiateddfod Genedlaethol.

Bu Twitter yn boeth neithiwr ar ôl i un prifardd holi a fydd enillydd y Tour de France yn torri Rheol Gymraeg y brifwyl pe bai’n annerch y gynulleidfa trwy gyfrwng y Saesneg ar risiau’r Senedd y prynhawn yma.

Bydd Geraint Thomas yn cyrraedd ei ddinas enedigol toc cyn 4:30yh, lle bydd yn cael ei groesawu gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Llywydd y Cynulliad, Elin Jones.

Bydd wedyn yn mynd ar gefn ei feic draw i Gastell Caerdydd, lle mae disgwyl i’r dathliadau parhau.

Y Rheol Iaith

Ond a’r Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd yr wythnos hon, mae Aneirin Karadog wedi cwestiynu a fydd gan y seiclwr di-Gymraeg yr hawl i draddodi o flaen y Senedd yn ei iaith gyntaf, sef Saesneg.

Mae’r Rheol Gymraeg yn nodi nad oes hawl defnyddio unrhyw iaith, heblaw’r Gymraeg, ar lwyfannau’r Eisteddfod Genedlaethol.

“Ydy grisiau’r Senedd yn cyfri fel maes yr @eisteddfod yn unig fory, ac felly yn golygu na fydd Geraint Thomas na fydd Geraint Thomas na neb arall yn cael siarad ar feicroffon yn Saesneg?” meddai.

https://mobile.twitter.com/ElinCeredigion/status/1027315662333591553

A oes ateb?

Ymhen amser, fe gafodd Aneirin Karadog ateb i’w gwestiwn, a hynny gan y newyddiadurwr Vaughan Roderick, sy’n nodi y byddai’r Senedd yn cael ei gyflwyno yn ôl i ddwylo’r Cynulliad am “awr union”.

https://twitter.com/VaughanRoderick/status/1027309387809996800

Daeth cadarnhad o hyn wedyn gan Lywydd y Cynulliad, Elin Jones, gyda hi’n dweud mai digwyddiad y Senedd “ar ran pobol Cymru” fydd croesawu Geraint Thomas i’r brifddinas.

Mae hefyd yn dweud bod awdurdodau’r Eisteddfod wedi “cydsynio” bod y Senedd yn cael defnydd o’r Maes am “gyfnod byr”.

https://twitter.com/ElinCeredigion/status/1027315662333591553