Mae mudiad sy’n ymgyrchu yn erbyn y diwydiant niwclear, wedi diolch i enillydd y Fedal Ryddiaith am dynnu sylw at beryglon posib damwain mewn atomfa fel Yr Wylfa.

Mae mudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B) yn dweud bod y gyfrol fuddugol ddoe (nos Fercher, Awst 8), Llyfr Glas Nebo, yn adrodd beth allai fod yn realiti, pe bai atomfa newydd yn dod i ogledd Môn.

“Dw i’n diolch o galon i Manon am roi llais mewn ffordd gelfydd iawn i’r gwrthwynebiad eang sydd i godi adweithyddion niwclear newydd yn y Wylfa,” meddai Robat Idris ar ran PAWB.

“Daeth nifer fawr o bobl ataf ar y Maes yn hollol ddigymell i fynegi eu gwrthwynebiad i Wylfa B. Roedd llawer yn ffieiddio fod Horizon yn noddi y cyngerdd Hwn Yw Fy Mrawd, a oedd, wrth gwrs, yn cofio’r arwr dyngarol Paul Robeson oedd yn elyn i orthrhrwm cyfalafiaeth…

“Mae’r neges ar lawr gwlad yn eglur – does dim croeso i Wylfa B gan drwch y boblogaeth yng Nghymru bellach.

“Mae neges Manon hefyd yn cyd-daro â’r ymgyrchu taer sy’n digwydd gyda’n cydymgyrchwyr gwrth-niwclear yn Siapan sydd wedi gweld realiti creulon tri ffrwydriad ac ymdoddiad niwclear mewn tri adweithydd niwclear yng ngorsaf Fukushima Daiichi ym Mawrth 2011,” meddai wedyn.

“Mae’r argyfwng a’r llygru niwclear yn parhau yno er gwaethaf pob ymdrech sinigaidd gan lywodraeth Shinzo Abe i gelu’r gwirionedd hwnnw.”