Fe fydd Heddlu De Cymru yn cadw llygad barcud ar faint o bobol fydd yn crynhoi ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Iau, Awst 9) i groesawu’r beiciwr, Geraint Thomas, gartref i Gaerdydd.

Ond, os y byddan nhw’n gorfod symud pobol o’r ardal yn enw diogelwch, fe allai hynny rwystro eisteddfodwyr rhag mynd a dod o’r brifwyl o gwmpas Canolfan y Mileniwm.

Dydyn nhw ddim wedi cadarnhau faint yn union ydi’r uchafswm o bobol a ganiateir ger grisiau’r Senedd, ond mae Heddlu Cymru yn dweud fod yna rif dan sylw, ac y gallai caniatau rhagor yn yr ardal wneud y lle’n beryg.

Mae’n debyg bod awdurdodau yn gweithio gyda’i gilydd i geisio sicrhau na fydd gormod yn ymgynnull i groesawu enillydd y Tour de France, mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw’n barod i gamu i mewn, unwaith y byddan nhw’n cael eu galw gan yr Eisteddfod.

Dathlu camp y beiciwr

Mae disgwyl i Geraint Thomas gyrraedd Bae Caerdydd toc cyn 4:30 y prynhawn yma, cyn seiclo draw i Gastell Caerdydd, lle fydd y dathliadau yn parhau.

Er bod y digwyddiad yn dechnegol ar faes yr Eisteddfod, bydd cyfrifoldeb am yr ardal yn cael ei drosglwyddo yn ôl at y Senedd dros dro, sy’n golygu bydd y seiclwr di-Gymraeg yn gallu siarad heb dorri’r rheol iaith.