Mae pump o ddynion wedi cael eu dedfrydu i garchar, ar ol ymosodiad ar fyfyriwr yn y dref ym mis Ionawr eleni,

Mae David Robert Lloyd, 25, wedi’i ddedfrydu i dair blynedd ac wyth mis; Lee Anderson-Warnerm 20, i 25 mis; Andrew Raymond John Scott, 23, 30 mis, yn ogystal â Michael Jones, 24.

Mae Billy Michael, 19, wedi’i anfon i garchar am saith mlynedd a hanner, a’r ddedfryd i’w threulio mewn carchar i bobol ifanc.

Fe ymddangosodd y pump gerbron Llys y Goron Abertawe heddiw (dydd Mercher, Awst 8), ar ol pledio’r euog ddydd Mercher diwethaf.