Dyn o Scarborough yn wreiddiol yw enillydd Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae Tim Heeley bellach yn byw ym Mae Colwyn ac fe ddatgelodd mai canu mewn parti cerdd dant yn yr Eisteddfod oedd wedi ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg.

Ers dod i Gymru mae wedi arwain corau a cherddorfeydd a threfnu’r gerddoriaeth i sioeau cerdd, yn ogystal â hyfforddi disgyblion ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

Ar ôl dilyn cwrs sabothol i athrawon ym Mhrifysgol Bangor mae bellach yn gallu cyflwyno gwersi cerddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

‘Gwaith godidog’

Gafael ar y Gwir yw enw ei ddarn buddugol, ac fe dderbyniodd y wobr mewn seremoni ym Mae Caerdydd  ddydd Mercher

“Mae hwn yn waith o safon uchel iawn,” meddai John Rae, un o’r beirniaid, gan ddweud fod y darn yn debyg i stori dditectif.

“Dyma gyfansoddwr profiadol sydd yn feistr ar y grefft o ysgrifennu i gerddorfa lawn. Ar y cyfan, dyma waith godidog drwyddo draw.”

Y wobr

Tasg eleni oedd creu darn i gerddorfa lawn fyddai’n gweddu i ddrama dditectif ar y teledu heb fod yn fwy na 7 munud.

Bydd Tim Heeley yn derbyn gwobr ariannol o £750 ac ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo ei yrfa.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd John Rae, John Hardy ac Owain Llwyd.