Mi fyddai’r iaith Gymraeg ar ei hennill petai gan gynghorau cymuned ragor o ddylanwad tros gynllunio yn eu hardaloedd.

Dyna yw barn y bargyfreithiwr, Gwion Lewis, a fydd yn arwain trafodaeth ar y mater ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Mercher (Awst 8).

Ei ddadl ef yw mai cynghorau lleol ddylai fod yn gyfrifol am benderfynu faint o dai sy’n medru cael eu codi mewn ardal, ond mai’r cynghorau cymuned ddylai benderfynu lle maen nhw’n cael eu codi.

Fe fyddai hynny, meddai, yn golygu lleihau heffaith datblygiadau tai a mewnfudo ar y Gymraeg ac fe fyddai’n “llawer iawn mwy effeithiol ac effeithlon” na’r drefn fel y mae.

‘Potensial’

“Dw i’n credu bod ‘na lawer iawn o botensial o fewn y gyfundrefn gynllunio nad ydyn ni wedi dechrau ystyried yma yng Nghymru ynghylch defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i weithio ochr yn ochr â chynllunio ieithyddol,” meddai Gwion Lewis wrth golwg360 yn yr Eisteddfod, lle’r oedd yn trafod y pwnc.

Eu ddadl yw bod gan gynghorau cymuned yr amser, ac yn aml yr adnoddau, i ganolbwyntio ar ardal mewn modd nad yw’n bosib yn aml i gynghorau sir ac mae’n gwrthod yr honiad y gallai rhoi mwy o rym i gynghorau bro arwain at lygredd.

“Dw i ddim yn gweld y ddadl yma ynglŷn â llygredd o gwbl,” meddai. “Sut byddwn i’n gweld y sustem yn gweithio, ydy bod y gymuned leol yn darparu’r cynllun cymunedol.

“Byddai honno wedyn yn gorfod mynd trwy broses sgriwtini annibynnol. Nid mater ydy hyn o roi rhwydd hynt i gyngor cymuned wneud yn llwyr beth y mae’n ddymuno.”