Bu farw cyn-berchennog siop lyfrau Cymraeg Porthaethwy, John Meirion Davies, yn 80 oed.

Roedd yn hanu o ardal Blaenau Ffestiniog, ond treuliodd ran fawr o’i oes yn byw ym Môn.

Bu’n llyfrgellydd yn y Coleg Normal, Bangor am gyfnod, cyn cymryd gofal o siop Awen Menai ym Mhorthaethwy tan ei ymddeoliad ychydig flynyddoedd yn ôl.

Yn gynghorydd sir, bu’n cynrychioli un o wardiau Porthaethwy ar hen Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn, a pharhaodd yn aelod annibynnol ar Gyngor Sir Ynys Môn wedi’r adrefnu yn 1996.

Roedd hefyd yn gerddor dawnus, ac yn gyfeilydd yng Nghapel Mawr, Porthaethwy.

Roedd yn briod â Ceinwen Davies, ac roedd ganddyn nhw bump o blant.