Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 33 oed mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol nos Lun yr wythnos hon yn y Rhondda (Awst 6).

Fe gafodd plismyn eu gael i Ffordd Gelli yn dilyn adroddiadau fod dynes wedi’i thrywanu yn dilyn ymosodiad – a’r gred ydi fod y dioddefwr a’r ymosodwr yn nabod ei gilydd.

Fe gafodd y wraig, 29, ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau gan ambiwlans awyr. Mae hi bellach mewn cyflwr sefydlog.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i achos o geisio llofruddio.