Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad yn dilyn gwrthdrawiad traffig yn ardal Pontypridd neithiwr (dydd Llun, Awst 6).

Bu’r digwyddiad ar Stryd Margaret yn Nhrehopcyn am tua 10:20yh ddoe, lle gwrthdarodd Renault Megane glas yn erbyn Vauxhall Corsa glas a oedd wedi’i barcio.

O ganlyniad i’r ddamwain, bu’n rhaid i ddyn 27 oed, a oedd yn gyrru’r Renault Megane, gael ei gludo i Ysbyty Frenhinol Morgannwg, lle bu farw yn ddiweddarach.