Mae cyn-gyfreithiwr gyda Llywodraeth Cymru a chyn-swyddog gyda’r heddlu wedi cael eu carcharu heddiw am gynnal ymosodiadau rhyw ar nifer o blant ifanc.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y cyfreithiwr John Ryan-Guess, 43, wedi cam-drin dwy ferch ifanc ac wedi ffilmio’r ymosodiadau i rannu ar-lein. Roedd hefyd wedi tynnu lluniau o blant yn newid mewn pyllau nofio neu ar y traeth.

Roedd cyn-swyddog yr heddlu, Dean Roberts, 48, o Ben-y-bont ar Ogwr wedi pledio’n euog i un cyhuddiad o dreisio plentyn a phum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar blant. Cafodd ei ddedfrydu i 12 mlynedd o garchar.

Roedd John Ryan-Guess, gynt o Gaerdydd ond yn ddiweddarach o Trowbridge yn Wiltshire, yn un o ymgynghorwyr cyfreithiol Llywodraeth Cymru. Nid yw bellach yn cael ei gyflogi gan Lywodraeth Cymru, meddai llefarydd.

Roedd wedi cyfaddef i 36 cyhuddiad gan gynnwys ymosod yn rhywiol ar blentyn.

Cafodd John Ryan-Guess ei ddedfrydu i 26 mlynedd yn y carchar a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo.

“Echrydus”

Roedd Dean Roberts yn cael ei gyflogi gan Heddlu De Cymru cyn iddo gael ei ddiswyddo yn dilyn gwrandawiad ar 14 Mehefin.

Cafodd yr heddwas ei arestio yn dilyn ymchwiliad i weithgareddau John Ryan-Guess. Roedd y ddau wedi cwrdd arlein.

Mae’r ymchwiliad hefyd wedi arwain at ragor o bobol yn cael eu harestio yn Lloegr a thramor.

Yn dilyn yr achos dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Wendy Gunney bod y dedfrydau yn “adlewyrchu difrifoldeb y troseddau sydd wedi cael eu cyflawni. Mae dau berson sydd yn gyfrifol am gam-drin echrydus nifer o blant ifanc bellach wedi cael eu dwyn i gyfrif.”