Y bardd a’r llenor, Catrin Dafydd, yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

Mae ei chasgliad buddugol o gerddi, yn dathlu Cymreictod ‘cymysg’ Trelluest (Grangetown).

“Dyma gasgliad amserol ac apelgar o obeithiol gan fardd sy’n lladmerydd huawdl dros Gymreictod cymysg, byrlymus y brifddinas,” meddai’r beirniad, Christine James.

“Gall ‘Yma’ gamu’n dyner, ond hefyd â’i dafod-yn-y-boch, fel yn y gerdd ‘Jentrifficeshyn’, sy’n codi cwestiynau dilys ynghylch beth yn union sy’n digwydd pan fydd y Cymry Cymraeg yn ‘coloneiddio’ rhan o’r ddinas.”

Y gystadleuaeth

‘Olion’ oedd testun eleni, a bu’n rhaid sgwennu casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, a heb fod dros 250 o linellau.

Christine James, Ifor ap Glyn, a Damian Walford Davies oedd y beirniaid ac mi wnaeth y gystadleuaeth ddenu 42 o geisiadau.

Llwyddodd 14 o feirdd i gyrraedd dosbarth cyntaf o leiaf un o’r beirniaid, gyda’r tri beirniad yn gytûn bod pump yn cyrraedd y brig y gystadleuaeth eleni.