Mae ‘na “siawns mowr” y bydd stondin yn gwerthu pob un o’u crysau-t sy’n dathlu buddugoliaeth Geraint Thomas yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Dyna mae Owain Young, perchennog cwmni Shwl Di Mwl, yn ei ddarogan yn dilyn penwythnos llewyrchus ym Mae Caerdydd.

Bellach mae’r cwmni wedi lansio crys-t yn dathlu buddugoliaeth y seiclwr o Gymru yng nghystadleuaeth y Tour de France.

A gan fod y pencampwr ei hun yn ymweld â’r Bae ar ddydd Iau (Awst 9), mae Owain Young yn rhagweld naid mewn gwerthiant.

“Mae’r ymateb i’r crysau sydd gennym ni fan hyn yn yr Eisteddfod wedi bod yn rhyfeddol,” meddai wrth golwg360.

“Ar ddydd Sadwrn a dydd Sul roedd y ford [y stondin] wedi’i orchuddio â’r crysau. Ond aethon nhw i gyd … Mae e wedi dod â rhyw ysbryd Cymreig [i’r gamp]. Dw i’n meddwl ei fod yn fendigedig.”

Dechreuodd Shwl Di Mwl werthu’r crysau yn syth ar ôl i’r Cymro ennill y gystadleuaeth, ac mae’n debyg cafodd yr ugain cyntaf eu gwerthu o fewn hanner awr.

O ran ymweliad y seiclwr, mae’r gwerthwr crysau-t yn nodi na fydd yno oherwydd ei fod yn credu y “bydd gormod o growd yna”.

Crys Croatia

Mae Shwl Di Mwl yn hoff o ddathlu llwyddiannau a methiannau chwaraeon, a mis diwetha’ mi wnaethon nhw ddechrau gwerthu crysau yn dathlu methiant Lloegr yng Nghwpan y Byd.

Gwnaeth y crys ennyn tipyn o ymateb, ond mae Owain Young yn cyfaddef nad oes llawer wedi’u gwerthu yn ddiweddar.

“Wnaeth e ddim gwerthu fel tân,” meddai. “Wnaeth e werthu yn dda, ond stopiodd [y diddordeb] ar ôl cwpwl o gemau.”