Bydd rhoi terfyn ar gosb gorfforol i blant yng Nghymru yn helpu’r nod o ddiogelu eu hawliau, yn ôl ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies, yn cyhoeddi heddiw grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gafodd ei gynnal ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddod â chosb gorfforol i blant i ben.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, cafodd mwy na 1,890 o ymatebion eu cyflwyno yn sgil yr ymgynghoriad, gyda mwy na 270 o bobol wedi mynd i un o’r digwyddiadau ymgysylltu a gafodd eu cynnal ledled Cymru.
Roedd ychydig dros hanner (50.3%) o’r ymatebion yn cytuno y byddai deddfwriaeth sy’n rhoi terfyn ar gosb gorfforol i blant o fudd i ddiogelu eu hawliau, tra bo 48.1% wedyn yn anghytuno.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyhoeddi’r mesur yn ystod trydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol, sef rhwng mis Medi eleni a mis Gorffennaf 2019.
Diogelu hawliau plant
“Er bod gan rieni gyfrifoldeb dros fagu eu plant, mae gan Lywodraeth Cymru rôl benodol iawn mewn perthynas â chreu cymdeithas y gall plant gael eu magu ynddi sy’n ddiogel ac yn gefnogol,” meddai Huw Irranca-Davies.
“Mae ein hymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth, ynghyd â chynnig cefnogaeth i rieni, yn allweddol i’n llwyddiant yn hyn o beth.”