Mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn cost dwyn eiddo yng nghefn gwlad, yn ôl cwmni yswiriant.

Mae adroddiad gan NFU Mutual yn dangos bod y gost sy’n deillio o droseddau cefn gwlad wedi cynyddu 41% yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

Ymhlith y pethau sydd fwya’ tebygol o gael eu dwyn gan ladron mae offer garddio, beiciau cwad ac anifeiliaid.

Yn yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr, roedd y gost roedd pobol yn ei hawlio gan NFU Mutual wedi gostwng 3.8% a 6.5%.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod cymunedau gwledig bellach yn defnyddio mesurau diogelwch sy’n deillio o’r Oesoedd Canol i amddiffyn eu heiddo.

Mae’r mesurau hynny’n cynnwys codi twmpathau pridd, creu ffosydd dwfn a gosod ffensys cadarn yn eu lle.

Maen nhw hefyd yn defnyddio technoleg fodern, gan gynnwys camerâu CCTV a dyfeisiau tracio.

“Troi at lyfrau hanes”

“Wrth wynebu cyfres o ymosodiadau gan ladron digywilydd, mae ffermwyr a phobol cefn gwlad yn troi at lyfrau hanes er mwyn ailsefydlu mesurau diogelwch o’r oesoedd canol,” meddai Tim Price, arbenigwr ar faterion gwledig gyda NFU Mutual.

“Mae cyfuno mesurau diogelwch sydd yn mynd yn ol ganrifoedd gyda thechnoleg fodern yn profi’n llwyddiannus yn barod trwy atal lladron sydd ddim ofn cael eu dal ar gamera ac sydd â’r sgiliau i oresgyn systemau diogelwch electronig.”

Ymateb Llywodraeth Prydain

Wrth ymateb i’r adroddiad, mae’r Swyddfa Gartref yn dweud bod ethol comisiynwyr yr heddlu wedi rhoi “llais cryf” i gymunedau, yn enwedig y rheiny yng nghefn gwlad.

“Rydym ni’n gwybod bod natur troseddau yn newid, a dyna pan mae’r Gweinidog dros faterion yr heddlu wedi cysylltu â phob un llu yn y wlad er mwyn ceisio deall yr anghenion y maen nhw’n eu hwynebu,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.

“A dyna pam mae’r Gweinidog Cartref ym mis Mai wedi ymrwymo i flaenoriaethu nawdd i’r heddlu yn yr adolygiad ar wariant y llywodraeth yn ystod y flwyddyn nesa’.”