Mae rhanbarth rygbi’r Gleision wedi ymrwymo i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.

Daeth y cyhoeddiad ar stondin Cyngor Caerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol y brifddinas ar ddiwrnod #CaerdyddYwDwyieithrwydd.

Fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw, bydd y Gymraeg i’w gweld ar arwyddion, deunydd cyfathrebu a marchnata’r rhanbarth, gan gynnwys posteri, cyfweliadau a fideos.

Bydd y Gymraeg i’w chlywed ar ddiwrnod gemau’r tîm hefyd – o gyhoeddiadau yn y stadiwm i gerddoriaeth a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg.

Dywed y rhanbarth iddyn nhw gael eu cynorthwyo gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae 13 o chwaraewyr y rhanbarth yn siarad Cymraeg.

‘Ymfalchïo a hyrwyddo’r Gymraeg’

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata’r Gleision, Mike Brown, “Fel busnes sydd yn gweithredu yng nghalon prifddinas Cymru, mae’n bwysig ein bod ni’n ymfalchïo ac yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

“Mae yna dîm bychan ohonom yn gweithio ym Mharc yr Arfau, a bydd hynny yn cyflwyno sialensau o ddydd-i-ddydd, ond mae cyrff fel Cymdeithas Bêl Droed Cymru, sydd wedi ein cynghori, wedi dangos manteision ac effeithlonrwydd ein hiaith frodorol.

“Mae tua 20 y cant o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg, gyda chyfartaledd  o 19 y cant yn ein rhanbarth daearyddol, a mae hyn yn parhau i gynyddu gyda tyfiant mewn ysgolion Cymraeg ac ymroddiad Llywodraeth Cymru.

“Mae nifer o chwaraewyr tim cyntaf y rhanbarth yn siaradwyr Cymraeg rhugl, yn ogystal â hyfforddwyr, staff a chefnogwyr.

“Nid yn unig mae dyletswydd arnom i gefnogi’r iaith Gymraeg, ond mi fydd hefyd yn cryfhau ein hunaniaeth.”

Cryfhau hunaniaeth y tîm

Un o’r Cymry Cymraeg yng ngharfan y Gleision sy’n cefnogi’r ymrwymiad hwn yw’r mewnwr Lloyd Williams.

Dywedodd, “Mae’r iaith Gymraeg wastad wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd i, gan ei bod wedi cael ei chynnwys yn naturiol yn fy mywyd o ddydd-i-ddydd trwy fy nheulu a fy addysg.

“Rwy’n edrych ymlaen i weld Gleision Caerdydd yn rhoi platfform i’r iaith yn y dyfodol. Mae nifer o aelodau’r garfan yn rhugl yn y Gymraeg, ac mae’r iaith i’w chlywed o amgylch y busnes pob dydd.

“Mae’r manteision o siarad Cymraeg yn anferth. Heb os, mae’r iaith yn gallu agor drysau i ffwrdd o’r maes chwarae, a chynnig cyfleuon mewn bywyd ar ôl rygbi.

“Gan ein bod ni wedi ein lleoli yn y brifddinas, mae hwn yn gyhoeddiad cyffrous, a bydd hunaniaeth a diwylliant y tîm yn cryfhau.”