Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth am ddyn 44 oed o Gasnewydd, sydd ar goll ers dros fis.

Daw Barry Higgs Collier o’r ddinas, ac fe gafodd ei weld ddiwethaf am 7.30yb ar Orffennaf 31.

Mae’r heddlu’n gofidio am ei ddiogelwch.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, 6’4″ a chanddo fe lygaid glas a gwallt brown byr.

Mae ganddo fe frychni ar ei wyneb, craith ar ei foch chwith a thatŵ ar ei fraich chwith.

Pan aeth ar goll, roedd e’n gwisgo crys-T glas, jeans glas ac esgidiau rhedeg Adidas coch.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.