Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnal ymchwiliad i lygredd slyri yn afon Marlais yn Arberth yn Sir Benfro ar ôl i bysgod gael eu lladd yno.

Mae o leiaf ddwy filltir o’r afon wedi’i effeithio, a thros 1,000 o bysgod wedi’u lladd.

Mae lle i gredu bod slyri wedi mynd i mewn i’r afon o lagŵn fferm leol, gan dynnu ocsigen o’r afon. Mae’r lagŵn bellach yn cael ei wagio.

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau nad oes rhagor o slyri’n llifo i mewn i’r afon erbyn hyn.

‘Testun pryder’

Mewn datganiad, dywedodd rheolwr gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru, Andrea Winterton fod y digwyddiad yn “destun pryder”.

“Bydd ein swyddogion yn cadw golwg ar y sefyllfa a byddant yn asesu’r effaith ar y pysgod, ar fywyd gwyllt yr afon ac ar yr amgylchedd ehangach. Wrth gwrs, fe fyddwn hefyd yn cymryd camau gorfodi priodol.

“Rydym yn ymwybodol bod pobol wedi bod yn casglu pysgod marw mewn rhwydi – ein cyngor yw na ddylai pobl fwyta’r pysgod yma.

“Rydym yn awyddus i barhau i weithio gyda’r diwydiant ffermio i wella dulliau gweithio ar ffermydd er mwyn rhwystro achosion o’r fath rhag digwydd eto.

“Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio wyth o swyddi newydd er mwyn helpu i atal llygredd ar draws Cymru.

“Mae’n well rhwystro’r llygredd yn y lle cyntaf, ond mae rhai achosion yn dal i ddigwydd. A’r adeg honno, y peth gorau y gall y ffermwr neu’r contractwr ei wneud yw cysylltu â ni’n syth trwy ffonio 0300 65 3000 fel y gallwn weithio gyda nhw i leihau’r niwed.”