Mae Pont Hafren yr M48 wedi’i chau i gyfeiriad y gorllewin oherwydd salwch staff.

Dywedodd yr Asiantaeth y Priffyrdd eu bod nhw wedi penderfynu cau’r bont yn rhannol, er mwyn diogelu staff a theithwyr.

Mae cyngor i deithwyr ddefnyddio ail Bont Hafren, ac mae rhagor o staff wedi’u symud yno er mwyn ymdrin â niferoedd uchel o gerbydau.

Mae’r ffordd ynghau rhwng cyffordd 1 a 2, sy’n cysylltu Cas-gwent ag Aust yn Swydd Gaerloyw.