Mae un o’r athrawon a oroesodd drychineb Aberfan yn 1966, Hettie Williams o Gwm Rhymni, wedi marw.
Cafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd pan lithrodd tomen o lo i mewn i’r pentref ar 21 Hydref, 1966.
Roedd hi’n cwblhau’r gofrestr adeg y trychineb, gan alw ar y plant i guddio o dan eu desgiau. Llwyddodd pob un o’r plant yn ei dosbarth i ddianc, a hithau wedi’u tywys allan yn ddiogel.
Yn dilyn y trychineb, cafodd y disgyblion yn Ysgol Pantglas eu symud i ganolfan gymunedol, a Hettie Williams yn un o’r bobol flaenllaw wrth sefydlu’r ysgol dros dro.
A hithau’n 23 oed ar y pryd, roedd hi newydd ddechrau ar ei blwyddyn gyntaf yn athrawes.
Adeg hanner canmlwyddiant y trychineb, dywedodd mewn rhaglen ddogfen mai “hapusrwydd y plant” oedd bwysicaf wrth sefydlu’r ysgol dros dro.