Mae’r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles wedi penderfynu na fydd yn ceisio rhagor o gefnogaeth i arwain Llafur Cymru ac y bydd, yn hytrach, yn cefnogi Mark Drakeford.

Yr Ysgrifennydd Cyllid yw’r unig ymgeisydd hyd yma sydd wedi ennill digon o bleidleisiau i fod yn ymgeisydd. Mae ganddo fe 13 pleidlais, wyth yn fwy na’r isafswm oedd ei angen er mwyn cyflwyno’i enw.

Mae gan yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gethin bedair pleidlais. Dydy Eluned Morgan na Huw Irranca-Davies ddim wedi cael eu pleidlais gyntaf hyd yn hyn.

Cafodd Jeremy Miles, yr Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd, ei ethol i’r Cynulliad yn 2016 a fe yw’r ffefryn ar gyfer y brif swydd ers tro.

Datganiad

Mewn datganiad ar ei dudalen Twitter, dywedodd Jeremy Miles ei fod yn “ddiolchgar” am y gefnogaeth a gafodd, a’i fod yn “gwrando a cheisio annog dadl ynghylch dyfodol ein plaid”.

Ychwanegodd fod angen “ffordd radical o gyflwyno ein gwerthoedd fel plaid sosialaidd ddemocrataidd i’r heriau dyfn rydyn ni’n eu hwynebu dros y blynyddoedd i ddod”.

Wrth amlinellu ei flaenoriaethau ar y gyfer y dyfodol, dywedodd fod angen i’r Blaid Lafur ganolbwyntio ar “ddysgu gydol oes, trawsnewidiad digidol, amddiffyn pobol rhag costau cynyddol pethau hanfodol cyfoes – Gwladwriaeth Ffyniant newydd – ac ailffurfio ein heconomi i fuddsoddi mewn cymunedau a busnesau cartref”.

Mark Drakeford

Ychwanegodd fod angen perthynas agos rhwng “radicaliaeth, delfrydiaeth a phragmatiaeth”, ac mai Mark Drakeford yw’r ymgeisydd gorau i ddechrau ar y broses honno.

Mark Drakeford, meddai, yw’r person gorau i drafod goblygiadau Brexit i Gymru a materion cyllid gyda Llywodraeth Prydain.

Ychwanegodd: “Mae Mark wedi profi y gall siarad â phob rhan o fudiad Llafur Cymru – ac y bydd, fel ein harweinydd, yn siarad â phob rhan o Gymru.”

Fe fydd Jeremy Miles yn annerch cynulleidfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd heddiw (3 o’r gloch yng Nghymdeithasau 2) fel rhan o ddigwyddiad sydd wedi’i drefnu gan Sefydliad Bevan, ac sydd wedi’i gefnogi gan y Cynulliad.