Mae un o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi llwyddo i osgoi carchar ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o achosi niwed corfforol difrifol.

Roedd y Cwnstabl James Morgan wedi troseddu y tu allan i oriau gwaith, ac fe gafodd ei ganfod yn euog ar Orffennaf 13 yn dilyn achos a barodd pum diwrnod yn Llys y Goron Abertawe.

Wrth ddychwelyd i’r llys er mwyn cael ei ddedfrydu heddiw (dydd Gwener, Awst 3), fe dderbyniodd yr heddwas wyth mis o garchar sydd wedi’i ohirio am ddwy flynedd.

Mae hefyd wedi’i orchymyn i beidio â chysylltu â’r dioddefwr am dair blynedd, ynghyd â gorchymyn i dalu £500 mewn iawndal a chyflawni 180 awr o waith cymunedol di-dâl.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau y byddan nhw’n parhau â’r ymchwiliad mewnol i’r achos o gamymddwyn.