Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod Aelod Seneddol Llafur ar fai am alw esgidiau un o’i gweithwyr swyddfa yn “dyke boots”.

Mewn achos llys diweddar yn Llys y Goron Caerdydd, daeth i’r amlwg bod Carolyn Harris wedi cyfeirio at “dyke boots” Jenny Lee Clarke, dynes hoyw oedd yn gweithio iddi ar y pryd.

Ers i’r achos ddod i ben, mae pwysau wedi bod ar Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe i roi’r gorau i’w  swydd yn Weinidog Cysgodol tros Gyfartaledd yn San Steffan.

A’r prynhawn yma mae Prif Weinidog Cymru wedi ychwanegu ei geinogwerth.

Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones:

“Does dim lle o fewn Llafur Cymru i iaith sy’n digio neu yn bychanu rhywun.

“Mae Carwyn wedi siarad gyda Carolyn heddiw, ac wedi dweud ei bod wedi gwneud y peth iawn trwy ymddiheuro yn ddiamod.”