Mae mwy o bobol wedi bod ar gyrsiau dysgu Cymraeg dros y flwyddyn ddiwetha’, yn ôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Yn ei hadroddiad blynyddol mae’r Ganolfan yn nodi bod 5,410 o bobol wedi bod yn rhan o’r rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’, sy’n cynnig cyrsiau dwys, cyrsiau preswyl a chyrsiau ar-lein i’r rheiny sydd am gryfhau eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Fe wnaeth cyfanswm o 600 o bobol wedyn ddilyn cyrsiau a oedd yn rhan o’r ‘Clwb Cwtsh’, sef cynllun ar y cyd rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan sy’n cyflwyno’r Gymraeg i deuluoedd sydd â phlant ifanc.

Yn ôl yr adroddiad, mae’r niferoedd hyn yn ychwanegol i brif darged y sector Dysgu Cymraeg ar gyfer y cyfnod 2017-18, sef darparu cyfleoedd dysgu i 17,660 o ddysgwyr.

Mae’r Ganolfan hefyd wedi cadarnhau ei bod wedi cyrraedd targedau’r flwyddyn flaenorol hefyd, sef darparu cyfleoedd dysgu i 16,845 o ddysgwyr.

“Blwyddyn brysur a chyffrous”

Yn ôl Prif Weithredwr y Ganolfan, Efa Gruffudd Jones, mae wedi bod yn flwyddyn “brysur a chyffrous”.

“Drwy ei holl waith, amcan y Ganolfan yw cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai.

“Rydym ni eisiau gwneud hynny drwy sicrhau bod modd i bawb gael y cyfle a’r gefnogaeth i ddysgu Cymraeg.”