Mae un o swyddogion Ffermwyr Ifanc Cymru yn dweud bod Ffederasiwn Cenedlaethol y Clybiau Ffermwyr Ifanc wedi cymryd “cam enfawr” trwy benderfynu peidio â chynnal ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) byth eto.

Daeth cadarnhad gan y mudiad ddoe (dydd Iau, Awst 2) na fyddan nhw’n cynnal Cyfarfodydd Cyffredinol yn y dyfodol.

Mae’r digwyddiad blynyddol yn un poblogaidd ymhlith aelodau’r Ffermwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr, gyda’r lleoliad yn amrywio rhwng Blackpool neu Torquay o flwyddyn i flwyddyn – a miloedd o ffermwyr yn heidio yno.

Ond yn ôl bwrdd rheoli’r Ffederasiwn, maen nhw wedi penderfynu dileu’r cyfarfod oherwydd bod nifer o ddigwyddiadau answyddogol bellach yn “bwrw cysgod” dros weithgareddau’r mudiad.

“Lleiafrif bychain”

Bu’r digwyddiadau ‘answyddogol’ hyn yn denu tipyn o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol yn Blackpool fis Mai eleni.

Roedd ambell fideo yn dangos aelodau o’r mudiad yn meddwi ac yn aflonyddu ar geir a phobol ar strydoedd y dre’.

Ond yn ôl Cennydd Jones, sy’n Aelod Hŷn y Flwyddyn gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, mae “lleiafrif bach” wedi sarnu’r hwyl i weddill yr aelodau.

“Roedd y fideos oedd wedi mynd rownd yn cynnwys lleiafrif, a mwy na thebyg roedd y lleiafrif yna ddim hyd yn oed yn aelodau o’r [mudiad],” meddai wrth golwg360.

“A dyna beth sydd wedi fy hala i’n grac ambwyti’r peth, yw bod y lleiafrif yna wedi sarnu fe ar gyfer yr holl aelodau ar draws Cymru a Lloegr.”

AGM yn gymaint mwy na meddwi’

“Y tro cynta’ i fi fod yn yr AGM oedd eleni, ac roedd cymaint o bethe da yn mynd ymla’n yna,” meddai Cennydd Jones wedyn, a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Aelod Hŷn y Flwyddyn yn ystod penwythnos y cyfarfod cyffredinol.

“Roedd ffeinal y Pantomeim yn digwydd yna – gyda CFfI Erwood o Gymru yn ennill; roedd cystadlaethau jump-rope a chystadlaethau Aelod Hŷn y Flwyddyn.”

Mae’r ffermwr ifanc yn codi pryderon ynglŷn â’r golled ariannol y bydd y mudiad yn ei wneud trwy beidio â chynnal y digwyddiad byth eto.

“Mae’n lot o incwm i’r [mudiad], ac yn ddigon eironig, yn yr AGM eleni fe fuon nhw’n trafod codi levy ar gyfer pris tâl aelodaeth achos bod prinder arian yn eu coffre nhw,” meddai Cennydd Jones.

“Mae tua 5,000 i 6,000 o bobol yn dod i’r AGM bob blwyddyn, ond maen nhw’n mynd i golli hwnna nawr – am y dyfodol agos ta beth.”