Mae sioeau teithiol yn parhau i gael eu cynnal er mwyn ceisio ysbrydoli ffermwyr i ymdopi gyda Brexit.

Yn ôl y corff Cyswllt Ffermio, mae dros 5,000 o ffermwyr wedi cael eu denu i’r sioeau ‘Ffermio ar gyfer y dyfodol’ ers i’r un gynta’ gael ei chynnal ddechrau 2017.

Y nod yw annog ffermwyr Cymru i flaengynllunio a chymryd camau a fydd yn helpu i baratoi eu busnesau ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd y bydd Brexit yn ei gynnig.

Bydd y sioeau ola’ yn cael eu cynnal mewn dau leoliad yng ngogledd a de Cymru ddiwedd y mis hwn, gydag un ym Mhlas yn Dre, Llanrwst, ar Awst 21, ac un arall yng Ngwesty Parc y Stradey yn Llanelli ar Awst 23.

Canolbwynt y cyflwyniadau yn y ddau ddigwyddiad fydd annog ffermwyr i ddatblygu busnes cynaliadwy er mwyn gwella perfformiad economaidd ac amgylcheddol.

Bydd cyfle i ffermwyr glywed barn arbenigwyr yn y diwydiant amaeth, ac ar frig yr agenda, yn ôl Cyswllt Ffermio, fydd pwysigrwydd cynllunio busnes strategol a rôl meincnodi.

Mae’r corff hefyd yn dweud bod presenoldeb yn un o’r ddau ddigwyddiad yn hanfodol ar gyfer y ffermwyr hynny sydd am wneud cais ar gyfer gynllun buddsoddi Grant Busnes i Ffermydd.

“Paratoi’n dda i wynebu’r dyfodol”

“Wrth i ni wynebu ansicrwydd Brexit, ni fu erioed amser mor bwysig i sicrhau bod eich busnes yn perfformio ar y lefelau gorau posibl fel bod gennych fodel busnes cadarn a chynaliadwy a’ch bod wedi paratoi’n dda i wynebu’r dyfodol,” meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes.