Mae paffiwr MMA (crefftau ymladd cymysg) o Loegr wedi denu ymateb chwyrn ar gyfryngau cymdeithasol wedi iddo wneud hwyl am ben arwyddion Cymraeg.

Mewn neges ar Twitter yn cyfeirio at arwyddion ffordd dwyieithog, a gafodd ei bostio ddydd Mercher (Awst 1), mi gymharodd Leeroy Barnes y Gymraeg â Dyslecsia, gan ddenu 119 ymateb.

“Ydy pobol dal yn siarad Cymraeg yn yr oes yma?” meddai. “Ac oes yna unrhyw siaradwyr Cymraeg sydd ddim yn siarad Saesneg?

“Dw i ddim yn deall pam ddylai’r arwyddion edrych fel eu bod wedi’u sgwennu gan rywun â Dyslecsia!”

Roedd y paffiwr MMA o Gymru, Brett Johns, ymhlith y bobol wnaeth ymateb i’r neges, gan ddweud: “Cymru am byth”.

Ac aeth sawl unigolyn ati i amddiffyn yr iaith.

“Mae mwy yn siarad Cymraeg nag erioed,” meddai un ymateb. “Byddai’n well gen i gael gwared ar y Saesneg!” meddai ymateb arall.

“Jôc”

Erbyn prynhawn ddydd Mercher, roedd Leeroy Barnes yn ôl gyda sylw arall i gorddi.

“Dw i newydd ddod yn ôl ar Twitter ar ôl cwpwl o oriau a dw i wedi sylwi ar ddau beth: Mae llawer o bobol yn siarad Cymraeg o hyd. A does dim un ohonyn nhw’n medru cymryd jôc!!”

Roedd y cwffiwr MMA yn dal i dderbyn negeseuon blin tan Ddydd Iau (Awst 2), ac yn y pendraw mi gyfaddefodd ei fod yn ymddwyn yn “brofoclyd yn fwriadol”, ac mai “jôc” oedd y cyfan.

Neges wreiddiol Leeroy Barnes:

https://twitter.com/LeeroyBarnes/status/1024694146811023360