Mae disgwyl cynnydd yn y galw am becynnau bwyd i blant tros wyliau’r haf, yn ôl elusen.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell roedd ‘na gwymp mewn galw am becynnau bwyd ymhlith oedolion yn ystod yr haf y llynedd, ond roedd ‘na gynnydd amlwg ymhlith teuluoedd gyda phlant.

Mae llawer o’r plant yma yn derbyn prydiau cinio am ddim tra’u bod nhw yn yr ysgol, ond yn ystod y gwyliau mae’n debyg bod rhaid iddyn nhw droi at fanciau bwyd.

I fynd i’r afael â’r broblem, mae’r elusen yn galw ar y cyhoedd i roi arian i fanciau bwyd, ac yn erfyn ar awdurdodau i ddod o hyd i ateb hirdymor.

Yn benodol, hoffai Ymddiriedolaeth Trussell weld newidiadau i’r sustem fudd-daliadau a fyddai’n hwyluso pethau i bobol ddifreintiedig.

Atebion

“Dydyn ni methu gadael i fanciau bwyd fod yn ateb hirdymor – ar unrhyw adeg o’r flwyddyn,” meddai Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd yr elusen, Samantha Stapley.

“Mae ‘na newidiadau y gallwn gyflwyno dros yr haf [i helpu’r difreintiedig], ond os ydym am atal y broblem trwy gydol y flwyddyn rhai gwneud mwy.

“Mae ein sustem fudd-daliadau yn medru amddiffyn pobol rhag wynebu tlodi. Rhaid i’r sustem wneud hynny.”