Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Abergele bnawn ddoe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad yn Rhodfa Dundonald tua 6pm nos Iau (2 Awst).

Roedd y ddynes yn cerdded ar hyd y ffordd pan gafodd ei tharo gan gar.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion i’r gwrthdrawiad. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod W108427.

Roedd y ffordd ynghau am beth amser wedi’r gwrthdrawiad ond mae bellach wedi ail-agor.