“Yn sicr, fyddai ddim yn cystadlu!” Dyna ymateb Elfed Roberts wrth golwg360 i’r cwestiwn a fydd yn cael ei ddenu i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ôl ymddeol – fel aelod o gôr pensiynwyr, efallai…

Yn dilyn y brifwyl yng Nghaerdydd, fe fydd pennod yn dod i ben ym mywyd Elfed Roberts wrth iddo roi’r gorau o fod yn Brif Weithredwr ar yr Eisteddfod Genedlaethol wedi chwarter canrif.

Mae’n dweud nad yw e’n teimlo’n chwithig ynglŷn â’r ffaith mai hon fydd ei eisteddfod ola’, gan “nad yw wedi meddwl am bethau felly eto,” meddai.

“Mae’n brofiad fatha pob un eisteddfod arall. Mae yna ddigon o waith i wneud, felly mae rhywun yn ddigon prysur.

“Dw i ddim yn meddwl llawer am yr ‘ymddeoliad’ ar hyn o bryd.”

‘Dal i gefnogi’

Gobaith y gŵr o Benygroes ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dyfodol yw y bydd hi’n “parhau i ddatblygu ac i esblygu”.

Mae hefyd yn gobeithio y bydd hi’n brifwyl sy’n “parhau i geisio denu mwy a mwy o bobol i ddod iddi i fwynhau’r arlwy mae hi’n ei threfnu”.

Ond er bod Elfed Roberts yn dweud y bydd yn cefnogi’r Eisteddfod “tra fydda’ i fyw”, mae’n mynnu nad oes yr un siawns y bydd yn troi’n gystadleuydd.

“Fedr’ i ddim canu, fedra’ i ddim dawnsio, fedra’ i ddim llefaru, fedra’ i ddim actio, fedra’ i ddim ysgrifennu barddoniaeth a fedrai ddim gwneud dim byd… felly na!”