Mae heddlu sy’n ymchwilio i achos o aflonyddwch yng Nghaerfyrddin nos Fercher (Awst 1) wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am y mater.

Cafodd swyddogion eu galw i dafarn y Blue Boar, Heol y Dŵr, am 5 y prynhawn, yn dilyn adroddiad am ddyn gyda dryll.

Roedd y dyn yma mewn fflat ar y stryd gyda dynes yn ei gwmni. Cafodd y swyddogion eu bygwth swyddogion, ac yn y pendraw cafodd drws y fflat ei flocio.

Bu’n rhaid cau’r stryd a chafodd 30 o dai eu gwagio – bu’n rhaid trosglwyddo eu preswylwyr i ganolfan hamdden.

Am 8.25 yr hwyr, cafodd dyn 24 blwydd oed ei arestio ar amheuaeth o feddu ar arf ac o achosi ffrwgwd. Mae’n parhau yn y ddalfa.

Am 9 yr hwyr cafodd dynes ei harestio ar amheuaeth o geisio cynnau tân gyda’r bwriad o beryglu bywydau. Cafodd ei throsglwyddo i’r ysbyty, ond bellach mae yn y ddalfa.

Cafodd neb eu hanafu, a bellach mae’r dryll ym meddiant yr heddlu.