Cafodd cyfleoedd eu colli i ofalu am ferch fach gafodd ei llofruddio gan ei thad pythefnos ar ôl iddo ei mabwysiadu’n ffurfiol, yn ôl adolygiad.

Fe wnaeth Matthew Scully-Hicks, 32, basio’r broses fabwysiadu yn ddidrafferth ac roedd ei ofal dros Elsie yn cael ei weld mewn golau da gan weithwyr proffesiynol.

Ond fe wnaeth yr hyfforddwr ffitrwydd, oedd wedi mabwysiadu plentyn arall yn y gorffennol, siglo Elsie yn dreisgar a’i thaflu i’r llawr yn eu cartref yn Llandaf, Caerdydd, ar Fai 25, 2016.

Ac yn ystod y misoedd cyn ei lladd y diwrnod hwnnw, fe wnaeth Matthew Scully-Hicks, anafu ei ferch sawl gwaith, gan gynnwys gadael clais mawr ar ei hwyneb a thorri ei choes mewn dau le.

Bellach, mae adolygiad arfer plant annibynnol wedi canfod bod gweithwyr proffesiynol heb gysylltu anafiadau Elsie gyda’i gilydd, wedi dangos diffyg “chwilfrydedd proffesiynol” ac wedi derbyn esboniadau diniwed ei thad.

Dim camau disgyblu

Mae Lance Carver, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg, wedi derbyn canfyddiadau’r adroddiad ac wedi ymddiheuro am y camgymeriadau gwnaed yn achos Elsie.

“Mae’r canfyddiadau yn dangos bod gweithwyr cymdeithasol a staff o bob asiantaeth wedi gweld y mabwysiadu yn bositif iawn,” meddai wrth gynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd.

“Fe wnaethon ni weld bod y teulu mabwysiadu fel ateb positif iawn i Elsie. Mae’r adroddiad yn canfod problemau gyda’r “lens bositif” honno yn golygu nad oedden nhw’n edrych yn y ffordd y dylen nhw fod.

“Mae hynny’n rhywbeth fel sefydliad y dylen ni fod wedi eu hadnabod.”

Dywedodd na fydd unrhyw gamau disgyblu yn cael eu cymryd yn erbyn aelodau o staff gan nad oedd yr adroddiad “yn dangos y byddai hynny’n briodol”.