Mae Aelod Cynulliad newydd Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi mynnu heddiw nad yw’n drawsffobig.

Mewn cyfweliad â golwg360 cyn iddi dyngu llw yn y Senedd a dod yn AC swyddogol, mae Helen Mary Jones yn dweud bod angen cael “balans” rhwng hawliau pobol trawsryweddol a hawliau menywod.

Mae nifer wedi ei beirniadu am ei sylwadau ynghylch pobol trawsryweddol yn y gorffennol a’i chysylltiad â grŵp ‘A Woman’s Place UK’.

Mae’r mudiad yn mynegi pryderon am newidiadau i’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004, a fydd yn ei gwneud hi’n haws i bobol newid eu rhywedd yn gyfreithlon.

“Mae unrhyw un sydd wedi cwrdd â fi yn gwybod bod hwnna ddim yn wir,” meddai Helen Mary Jones am y cyhuddiadau ei bod yn drawsffobig.

“Dw i’n gweithio gyda grŵp o fenywod sy’n rhannu’r un pryderon drwy fudiad o’r enw ‘A Woman’s Place UK’, ac mae menywod traws sy’n rhan o’r mudiad yna, hefyd, yn becso ynglŷn â sut mae’r gyfraith yn mynd i newid.

“Felly, os mae pobol yn meddwl hynny, yn amlwg maen nhw naill ai ddim wedi cwrdd â fi a ddim wedi darllen be’ dw i wedi dweud fy hunan.

“Fi’n croesawu’r cyfle i gael y sgwrs honno gyda phobol sy’n becso, gan obeithio y bydda’ i’n gallu rhoi sicrwydd iddyn nhw.

“Dw i wedi bod yn weithgar yn trio cefnogi gwell hawliau i bobol traws, ond mae yna newidiadau yn y gyfraith lle dw i’n gweld gall fod problemau rhwng gwella hawliau pobol traws a hawliau merched a menywod i gael preifatrwydd, er enghraifft.

“Dw i’n credu, os ydyn ni’n gallu cael trafodaethau synhwyrol, gwrando ar ein gilydd, y byddwn ni’n gallu ffeindio ffordd bositif ymlaen i wella hawliau pobol traws ac amddiffyn hawliau menywod.

“Sefyllfaoedd, er enghraifft, fel carchardai menywod, llochesi, lle mae menyw traws sy’n teimlo fel menyw ei hunan ond efallai i’r menywod eraill, nid fel yna maen nhw’n teimlo…

“Mae eisiau i ni sicrhau bod yn y sefyllfaoedd lle mae menywod sy’n enwedig o fregus, fel rape crisis centres, llochesi ac yn y blaen, bod yna ryw fath o falans ynglŷn â sut maen nhw’n teimlo ac fel maen nhw’n gweld y person traws, yn ogystal â chefnogi hawliau’r person traws.

“Mae jyst eisiau cael sgwrs a sicrhau bod ni’n cael y balans yn iawn. Dw i’n hollol argyhoeddedig fedrwn ni wneud hwnna.”

Cymryd lle Simon Thomas

Daeth cadarnhad heddiw mai Helen Mary Jones fydd yn cymryd lle Simon Thomas yn y sedd ranbarthol.

Teimlad chwerw-felys oedd derbyn y sedd, meddai, wedi’r sioc yn dilyn ymadawiad ei rhagflaenydd.

“Mewn ffordd, dw i’n falch i gael y cyfle i wasanaethau’r ardal… ond does neb yn gallu ymfalchïo yn y sefyllfa, a’r unig beth alla’ i wneud yw gwasanaethu orau galla’ i ar ôl cael y cyfle dan amgylchiadau mor ofnadwy.”