Fydd yr adroddiad i amgylchiadau diswyddo’r diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, ddim yn cael ei gyhoeddi tra bod Carwyn Jones yn dal yn arweinydd Llafur Cymru.

Fe fydd cyfnod o chwe mis ers gorffen derbyn tystiolaeth, cyn y bydd y casgliadau yn cael eu cyhoeddi.

Gorffennaf 13 eleni oedd dyddiad olaf derbyn tystiolaeth, sy’n golygy y bydd Carwyn Jones wedi gadael ei swydd yn Brif Weinidog ac yn arweinydd Llafur Cymru cyn y bydd yr adroddiad yn gweld golau dydd.

Paul Bowen QC yw cadeirydd yr ymchwiliad, ac mae disgwyl iddo gynnal cyfres o wrandawiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Oherwydd “natur sensitif” yr ymchwiliad, fe fydd y rhain yn sesiynau preifat.

Y cefndir

Bu farw Carl Sargeant rai dyddiau ar ôl cael ei ddiswyddo o gabinet y Llywodraeth ym mis Tachwedd 2017. Roedd yn wynebu ymchwiliad gan y Blaid Lafur i honiadau yn ei erbyn o gamymddwyn rhywiol.

Mae ei deulu eisoes wedi codi pryderon am yr ymchwiliad ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod staff Llywodraeth Cymru wedi cael eu hannog i rannu tystiolaeth gyda gweision sifil cyn dweud wrth yr ymchwiliad.

Mae Ysgrifennydd Parhaol y Llywodraeth, Shan Morgan, wedi mynnu na fydd unrhyw dystiolaeth yn cael ei golygu cyn rhoi i’r ymchwiliad a bod modd i staff fynd yn syth at Paul Bowen QC.

Yng nghynhadledd Llafur Cymru yn y gwanwyn, cyhoeddodd Carwyn Jones ei fod yn bwriadu sefyll i lawr.

Does dim amserlen bendant ar bryd fydd olynydd iddo yn cael ei ethol, ond mae disgwyl i Carwyn Jones gamu o’r neilltu yn yr hydref.

Bydd yr arweinydd newydd yn cymryd yr awenau erbyn diwedd y flwyddyn.