Mae swyddogion arbenigol Heddlu Dyfed-Powys wedi gwagio 30 o dai yng nghanol tref Caerfyrddin heno (nos Fercher, Awst 1), wrth iddyn nhw ddelio â ffrwgwd yn ardal Heol y Dŵr.

Mae pawb sydd wedi’u symud o’u tai yn cael lloches yn y ganolfan hamdden, tra bod y digwyddiad yn mynd rhagddo.

“Rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Sir Gâr i wneud hyn yn y modd mwya’ effeithiol posib,” meddai’r llu.

“Rydyn ni’n gofyn i bobol gadw draw o’r ardal, ac i adael i swyddogion ganolbwyntio ar ddelio â’r sefyllfa.”