Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar 129 o dai newydd yn ardal Caerdydd, wedi i gwmni Barratt Homes a David Wilson Homes sicrhau caniatad cynulliad ar gyfer y safle yn Dinas Powys.

Fe ddaeth y cyhoeddiad heddiw, wrth i’r datblygwyr addo creu “nifer fawr” o swyddi newydd, yn cynnwys gwaith i bobol ac is-gontractwyr lleol.

“Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer pobol sydd eisiau bwrw gwreiddiau yn yr ardal hon,” meddai llefarydd ar ran y datblygwyr.

“Rydyn ni’n meddwl yn ddwys cyn penderfynu lle’r ydyn ni am godi tai, ac mae yna alw mawr yn Dinas Powys.”

Fe gafodd y cynllun ar gyfer codi cyfanswm o 220 o dai newydd ar hen safle Ysgol St Cyres ei gyhoeddi gyntaf ym mis Tachwedd y llynedd. Mae’r caniatad hwn yn rhoi sêl bendith i ran gyntaf y datblygiad.