Yr Aelod Seneddol, David Hanson, fydd yn cynnal adolygiad o addysg mewn carchardai yn Nghymru.

MAe’n dweud y bydd yn anelu at wella’r cymorth sydd ar gael mewn carchardai i garcharorion ac wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau i’r gymuned yng Nghymru.

Mae Aelod Seneddol Delyn yn gyn-Weinidog Gwladol dros Garchardai, ac fe fydd yn edrych ar yr hyn sy’n gweithio’n dda ac yn nodi’r hyn sydd angen ei wella yn y drefn yng Nghymru.

Bydd yn ystyried anghenion tri grŵp penodol – pobl ifanc, menywod a dynion – ac yn edrych ar yr hyn sy’n rhwystro cyflenwi cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn effeithiol. Bydd yn cynnal yr adolygiad dros yr haf ac yn adrodd yn ôl i’r Gweinidog erbyn diwedd mis Tachwedd 2018.

“Rwy’n falch o gael cynnal yr adolygiad hwn o addysg mewn carchardai ar gyfer Llywodraeth Cymru,” meddai David Hanson.

“Gobeithio y gallaf ddefnyddio fy mhrofiad fel Gweinidog Gwladol dros Garchardai i sicrhau y bydd y gwerthusiad hwn yn arwain at lunio adroddiad a fydd yn clustnodi’r prif feysydd sydd i’w diwygio ac yn dangos y prif gyfleoedd.

“Mae’n hanfodol bwysig bod gennym system cyfiawnder troseddol sy’n adsefydlu troseddwyr. Wrth greu system garchardai sy’n ail hyfforddi ac yn rhoi addysg i droseddwyr, rydym yn creu aelodau newydd i’r gymdeithas sy’n gallu gwneud cyfraniad a thalu eu ffordd.

“Ymchwiliad a fydd yn cael ei arwain gan dystiolaeth fydd yr ymchwiliad hwn,” meddai wedyn. “Rwy’n gobeithio y gallwn ychwanegu at lwyddiannau’r gorffennol, cael gwared ar y methiannau presennol, a chroesawu’r cyfleoedd a ddaw yn y dyfodol â breichiau agored.

“O wneud hynny, bydd y Deyrnas Unedig gyfan yn genfigennus o’r system garchardai yng Nghymru.”