“Mae blwyddyn comedïwr yn mynd o Awst i Awst,” meddai Tudur Owen, wrth siarad â golwg360 o’r trên sy’n ei gludo i ŵyl gomedi Caeredin eleni.

Mae’r digrifwr o Fôn yn mynd â’i sioe ddiweddara’, Undemanding, i brifddinas yr Alban y mis hwn. Ond byddai cyfieithu’r teitl a’i galw’n sioe “ddiymdrech” yn gwneud cam â’r digrifwr profiadol.

“O ddechrau efo tudalen lân, mae blwyddyn comedïwr yn mynd o fis Awst i fis Awst, o un ŵyl Caeredin i’r llall. Mae’r gwaith yn dechrau, felly, o fis Medi ymlaen.

“Mae’n cymryd y flwyddyn i baratoi ar gyfer mis Awst. Mae’n broses hir o gasglu deunydd a meddwl am straeon a jôcs. Mae pawb yn wahanol, ond blwyddyn wnaeth o gymryd i fi baratoi hon.”

‘Mwynhau’

Mae Tudur Owen yn mynnu mai mwynhau yw ei brif fwriad wrth fynd â sioe i Gaeredin erbyn hyn, tra bod eraill, efallai, yn chwilio am adolygiadau cadarnhaol a chyfleoedd i ddatblygu eu gyrfaoedd.

“Fel mae’r teitl yn awgrymu, does dim byd trwm, dim negeseuon mawr, pwysig. Fy mwriad – a fy job fel comedïwr – ydi gwneud i bobol chwerthin mor aml ac mor uchel â phosib. Dyna ’mwriad i efo’r sioe hon – awr o straeon a jôcs fel bod pobol yn gallu ymlacio a chwerthin.

“Mae’n dibynnu be’ wyt ti isio allan ohono fo. Ers talwn, byddwn i’n mynd yno i blesio pobol a chael sylw pobol yn y diwydiant, ond dw i wedi cyrraedd y pwynt lle dw i yno i fwynhau fy hun, yn fwy na dim, ac i fwynhau sefyll ar fy nhraed i wneud comedi.

“Mae ’na bwysau i sgwennu ond erbyn cyrraedd yr ŵyl, rwyt ti’n gwybod os ydi dy sioe di o safon neu beidio, achos rwyt ti wedi bod yn ei hymarfer hi a’i thrio hi allan.”

‘Grêt’

Mae ei Gymreictod yn rhan annatod o gomedi a bywyd Tudur Owen ac mae hynny, meddai, yn treiddio i’w ddeunydd. Ond mae tipyn mwy na hynny’n perthyn i’r sioe hefyd.

“Dw i bellach yn fy mhumdegau, felly mae ’na hanesion yn ymwneud â bod yr oed yna. Ond un edefyn arall sy’n rhedeg drwyddi ydi’r gair ‘grêt’.

“Mae Donald Trump yn sôn fod o isio gwneud America’n “grêt”. Tydi’r gair ddim yn taro deuddeg efo fi, yr awch yna i fod yn “grêt” drwy’r amser.”

Y gynulleidfa a’u ‘sŵn chwerthin’

Mae Tudur Owen yn disgwyl cynulleidfa ychydig yn wahanol i’r arfer wrth berfformio’i sioe yng Nghaeredin.

“Maen nhw’n medru newid o un diwrnod i’r llall, yn dibynnu ar ba amser o’r wythnos yw hi.