Mae Steffan Alun yn dweud fod y profiad o berfformio awr o sioe yng ngŵyl gomedi Caeredin “fel Groundhog Day”.

Fe fydd y digrifwr o Abertawe’n mynd â’i sioe Free Standup Will Never Die i’r ŵyl wrth iddo ddychwelyd yno am y trydydd tro. Fe fydd yn ei pherfformio bob dydd am 4.30yp rhwng Awst 4 a 12, ac yna rhwng Awst 14 a 25.

Fe fydd pob math o themâu dan sylw – Cymreictod, Abertawe, bandiau’r 1990au a rhywioldeb – wrth i’r digrifwr fynd i’r afael ag ‘argyfwng hunaniaeth’.

“Mae’n fis hir. Mae e fel Groundhog Day,” meddai wrth golwg360. “Mae pob diwrnod yr un peth, ac mae’n rhaid i ti drio ail-greu’r cyffro bob tro.

“Am weddill y flwyddyn, ti’n mynd o gig i gig a phob un yn wahanol, pob stafell yn wahanol, pob cynulleidfa’n wahanol.

“Wedyn yng Nghaeredin, ti yn yr un stafell bob dydd yn gwneud yr un sioe. Ac felly, mae’n rhaid i ti gofio peidio jyst dweud y geiriau.”

Rhith?

Sut, felly, mae creu’r rhith mai perfformiad cyntaf o’r sioe y mae’r gynulleidfa’n ei weld bob dydd?

“Rhaid i ti fyw’r peth a chadw’r peth yn ffres a gwahanol bob tro, er bo ti’n gwneud yr un straeon yn yr un drefn. Mae cynulleidfaoedd yn gallu dweud os wyt ti’n ailadrodd yr un peth, ac maen nhw hefyd yn gallu gweld os wyt ti wedi creu rhywbeth arbennig ar eu cyfer nhw.”

Tra bod y gynulleidfa’n gweld y sioe orffenedig yn unig, fe fydd Steffan Alun wedi perfformio’r sioe – neu rannau ohoni wrth gynnig sioeau rhagflas – droeon yn y misoedd cyn cyrraedd prifddinas yr Alban.

“Ti’n gweithio arni drwy’r flwyddyn,” meddai, “Ti’n gweithio gweddill y flwyddyn fel digrifwr ond ti’n ei wneud e er mwyn creu awr o sioe.

“Fi siŵr o fod wedi sgwennu tair awr o ddeunydd eleni jyst er mwyn gollwng y mwyafrif llethol a chadw’r goreuon. Dyna ’mhroses i, ond mae pawb yn wahanol. Dw i wastad yn sgwennu mwy nag sydd ei angen arna i.”

‘Buddsoddi mewn sioe’

Wrth i ddigrifwyr gynnal sioeau rhagflas yn y misoedd cyn mynd i Gaeredin, mae’r cynulleidfaoedd yn aml yn fach, sy’n golygu nad oes arian mawr i’w wneud er mwyn ei gynilo tuag at fis sy’n gallu bod yn ddrud.

Ond fe fydd Steffan Alun yn perfformio fel rhan o ŵyl sy’n cynnig sioeau rhad ac am ddim, gyda’r cyfle i’r gynulleidfa roi arian mewn bwced ar ddiwedd y sioe.

“Yn aml, ti’n talu arian i gyrraedd gig, a ddim yn gwneud cymaint o arian am wneud y gig. Felly mae’n fuddsoddiad. Ti’n buddsoddi mewn creu sioe, a gobeithio bydd sioe dda gyda ti ar ddiwedd y peth.

“Hyd yn hyn, dwi wastad wedi gwneud elw wrth wneud Caeredin, ond mae’n waith caled i ddatblygu’r sioe yn y lle cyntaf.

“Fi wastad yn bod yn eitha’ call. Mae rhai pobol yn talu miloedd ar filoedd, ond fi’n rhan o be’ maen nhw’n alw’n Free Fringe, sy’n golygu bo fi’n cael stafell am ddim – mae dal angen talu costau byw am fis.

“Ond sai’n gredwr mewn twlu arian bant am ddim rheswm ar yr ŵyl. Ond fi’n deall pam fod pobol yn gwneud hynny – mae’n lot haws cael sylw’r diwydiant, ond ’sdim ots gyda fi. Fi yno i ddiddanu cynulleidfaoedd ac i ddatblygu fel act a chreu sioe. Dyna sy’n bwysig i fi.”