Mae pum dyn wedi cyfaddef iddyn nhw gymryd rhan mewn ymosodiad ar fyfyriwr o Aberystwyth ar ddechrau’r flwyddyn.

Cafodd Ifan Owens, 20, o Gaerdydd, ei ddarganfod yn anymwybodol ar y dre’ yn ystod oriau mân ddydd Sul ar Ionawr 14, ac fe  dreuliodd bedair wythnos mewn coma yn dilyn y digwyddiad. Fe ddadebrodd ar Chwefror 11.

Gerbron Llys y Goron Abertawe heddiw (Awst 1) fe blediodd Billy Valentine, 19, yn euog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

A phlediodd pedwar dyn arall – David Robert Lloyd, 25, Lee Andersen, 20, Andrew Raymond John Scott, 23, a Michael Jones, 24 – yn euog i gyhuddiad o anrhefn dreisgar.

Roedd y pump, yn wreiddiol, wedi pledio’n ddieuog. Fe fyddan nhw’n cael eu dedfrydu wythnos i heddiw, ar Awst 8.