Mae’r gwaith o droi Bae Caerdydd yn faes prifwyl, bron ar ben.

Ers rhai dyddiau, mae gweithwyr wedi bod wrthi’n trawsnewid yr ardal, gan osod dwsinau o stondinau dros yr ardal.

Erbyn hyn mae pabell Tŷ Gwerin a Bar Syched wedi’u codi, ac mae arwyddion wedi’u gosod ar eu blaenau.

Ac yn Roald Dahl Plass mae’r gweithwyr wedi cwblhau’r gwaith o godi llwyfan anferthol y maes.

Yn yr ardal hon y bydd Pentre Bwyd y maes, a bellach mae pabell fwyd fawr wedi’i gosod yno ynghyd â bariau bob ochr iddi.

Tu fewn i adeilad y Senedd, lle fydd y Lle Celf, mae sawl darn o waith celf eisoes wedi eu gosod ar furiau gwyn y cwrt.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol 2018 yn dechrau’n swyddogol ddydd Gwener (Awst 3).

Pentre Bwyd
Stondin â baneri
Bar Syched
Llwyfan y Maes
Llawr gwaelod Lle Celf
Llawr uchaf Lle Celf