Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi tarfu ar agoriad swyddogol siop newydd Iceland yn y Rhyl heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 31).

Ar fore agoriad swyddogol y siop newydd, mae pymtheg o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ynghyd â’r cynghorydd lleol Arwel Roberts, wedi gwrthdystio tu allan a thu fewn i’r siop gan gwyno i reolwyr am y diffyg arwyddion Cymraeg.

“Mae’n rhaid eich bod chi wedi bod mewn parti rywbryd pryd y mae’r teulu wedi anghofio dod ag anrhegion i’r gwahoddedigion,” meddai David Williams, Cadeirydd Rhanbarth Glyndŵr, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Wel, dyna sy gyda ni heddiw – mae Iceland wedi eich gwahodd chi i gyd draw, ond wedi anghofio dod ag arwyddion Cymraeg i ni i ddangos parch at Gymru. Rydym yn disgwyl yn eiddgar i gael gweld arwyddion a gwasanaeth Cymraeg.

“Un enghraifft o nifer yw Iceland – dydi dibynnu ar “ewyllys da” cwmniau mawrion sydd yn blaenoriaethu gwneud elw dros bopeth arall ddim yn ddull o sicrhau tegwch i’r Gymraeg. Mae angen hawliau iaith glir arnon ni, a rhaid i’r safonau iaith cael eu hymestyn i’r sector breifat.”

Yn ardal y Rhyl yr oedd pencadlys cyntaf y cwmni yn y 1970au.