Mae heddlu sy’n ymchwilio i achos tân yn Aberystwyth ac sy’n ceisio dod o hyd i ddyn sydd ar goll, bellach yn cydweithio ag awdurdodau Lithwania.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i westy Tŷ Belgrave, Ffordd Glan y Môr, am 2.21yb, fore dydd Mercher, Gorffennaf 25.

Fe lwyddon nhw i achub naw oedolyn a thri phlentyn. Ond, er gwaetha’u hymdrechion, mae un person yn dal i fod ar goll.

Erbyn hyn, mae Heddlu Dyfed Powys mewn cysylltiad â Llysgenhaty Lithwania, ac yn ceisio cysylltu â theulu’r dyn sydd ar goll.

Does dim manylion eto ynglŷn â beth achosodd y tân, ac ni fydd modd i’r heddlu gynnal chwiliad o’r adeilad tan ddiwedd yr wythnos hon, ar y cynharaf.

Arestio

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r tân, dan amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywydau.

Ar hyn o bryd, mae’r unigolyn hwn yn y ddalfa yn Aberystwyth.