Bydd y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn derbyn £200,000 i’w helpu i baratoi am sgil effeithiau Brexit.

Yn bennaf, bydd y swm yma – a ddaw o Gronfa Bontio’r Undeb Ewropeaidd (UE) Llywodraeth Cymru –  yn ariannu ymchwil i effaith Brexit ar y sector.

Mae Cronfa Bontio’r UE yn werth £50 miliwn, a chafodd ei sefydlu i helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i baratoi ar gyfer gadael yr UE.

Mae disgwyl i’r gwaith ymchwil, a fydd yn cael ei ariannu gan y cyllid, ddatgelu pa ardaloedd o Gymru a pha swyddi penodol fydd yn cael eu heffeithio fwyaf.

“Cefnogi’r sector”                                                              

“Mae’r gofal a’r cymorth sy’n cael eu rhoi gan y gweithlu yn amddiffyn ac yn cefnogi rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas,” meddai Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol.

“Drwy sicrhau bod gennym ddata cadarn … bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi’r sector i weld pa anghenion fydd ganddo o ran y gweithlu ar ôl Brexit, ac i gynllunio ar gyfer eu diwallu.”