Mae’r gwasanaethau brys yn parhau i chwilio am ddyn a aeth ar goll yn Sir Benfro dros y penwythnos.

Mae’r awdurdodau’n deall bod y dyn wedi mynd i drafferthion ym Marina Neyland ddydd Sul (Gorffennaf 29).

Ceisiodd dynes ei helpu, mae’n debyg, ond mi ddychwelodd i’r lan ar ei phen ei hun.

Roedd Gwylwyr y Glannau wedi derbyn adroddiadau am y digwyddiad am 3.45yh ddoe, ac fe ddechreuodd yr ymdrech i chwilio amdano wedi hynny.

Bellach mae Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a gwasanaethau eraill ynghlwm â’r gwaith chwilio.