Mae ymgyrch ar droed yng Nghaerdydd i baentio blwch post yn felyn yn dilyn llwyddiant Geraint Thomas yn ras feics Tour de France.

Fe fydd y Cymro o’r Eglwys Newydd yn selio’i fuddugoliaeth heddiw wrth i’r digwyddiad ddod i ben ym Mharis.

Ac mae staff yn The Bikeshed ym Mhontcana yn galw am nodi ei lwyddiant mewn modd unigryw. Maen nhw eisoes wedi cysylltu â’r Post Brenhinol a Chyngor Caerdydd i awgrymu’r syniad.

Mae’n dilyn paentio blychau post ledled gwledydd Prydain yn aur i ddathlu medalau aur Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.

Mae gan y Cymro flwch post aur eisoes yn y brifddinas, a hwnnw ger adeilad gwreiddiol y BBC, sydd bellach yn gartref i gwmni marchnata Barracuda.

Mae neges ar dudalen Twitter y cwmni beics wedi cael ei aildrydar gannoedd o weithiau, ac mae’r cwmni hefyd wedi cael cefnogaeth Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan.