Mae nifer o gestyll yng Nghymru, ynghyd â Neuadd y Ddinas Caerdydd, wedi’u goleuo’n felyn ers nos Sadwrn i ddathlu llwyddiant Geraint Thomas yn ras feics Tour de France.

Aros ar ei feic yn unig yw nod y Cymro o’r Eglwys Newydd yn ystod y prosesiwn o gymal olaf ym Mharis.

Os yw’n llwyddo i wneud hynny, fe fydd yn cael ei goroni’n bencampwr heno.

Geraint Thomas fydd y dyn cyntaf o Gymru i ennill y ras, gan ymuno â Nicole Cooke yn y llyfrau hanes, a hithau wedi ennill ras y merched ddwywaith – yn 2006 a 2007.

Llongyfarchiadau

Mae nifer o wleidyddion blaenllaw wedi llongyfarch Geraint Thomas ar ei lwyddiant.

Wrth droi at wefan gymdeithasol Twitter, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod llwyddiant y Cymro’n “gyflawniad gwych”, cyn ychwanegu y “bydd Cymru’n dy annog yn dy flaen wrth i ti fynd am y terfyn”.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: “Mae ei ddyfalbarhad dros yr wythnosau diwetha’n dangos cymaint mae e eisiau ennill y ras epig hon.

“Mae Geraint yn llysgennad gwych i’r gamp, i Gymru ac mae’n llwyr haeddu ei le yn hanes – llongyfarchiadau mawr”.

Cymal yn erbyn y cloc

Llwyddodd Geraint Thomas i gadw ei afael yn dynn ar y crys melyn ar ôl y cymal olaf ond un yn erbyn y cloc ddydd Sadwrn.

Aeth y cymal hwnnw o Saint-Pee-sur-Nivelle i Espelette yng Ngwlad y Basg, ac fe ddaeth y Cymro oddi yno gyda mantais o funud a 51 eiliad.

Tom Doumoulin, sy’n ail ar y cyfan, enillodd y cymal o flaen cyd-aelod Geraint Thomas yn nhîm Sky, Chris Froome.

Dim ond dau seiclwr arall o wledydd Prydain, Syr Bradley Wiggins a Chris Froome, sydd wedi ennill Tour de France – a seiclwr o wledydd Prydain fydd wedi ennill chwech allan o’r saith ras ddiwethaf pe bai Geraint Thomas yn cipio’r goron heddiw.

“Alla i ddim credu’r peth”

Cafodd Geraint Thomas ei gofleidio gan ei wraig Sara a’i hyfforddwr, y Cymro Syr David Brailsford, wrth orffen y cymal olaf ond un.

“Alla i ddim credu’r peth,” oedd ei ymateb, ond mae e wedi dal ei afael ar y crys melyn ers y deuddegfed cymal.

“Dw i’n ddagreuol. Dw i ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Mae’n fy ngorchfygu. Wnes i ddim meddwl am y peth drwy gydol y ras ac yn sydyn iawn, enillais i’r Tour.

“Alla i ddim siarad. Mae’n anhygoel. Ro’n i’n credu y gallwn i guro’r bois yma ond mae gwneud hynny ar y llwyfan mwya’ dros gyfnod o dair wythnos, yn wallgo’.

“Y tro diwethaf i fi grio oedd pan wnes i briodi, a dw i ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd i fi.”

Wrth ymateb i’r dathliadau yng Nghymru, ychwanegodd: “Mae’n swnio fel pe bai popeth wedi mynd yn wyllt gartre’. Dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd a dathlu gyda phawb.”