Cafodd dyn ei arestio mewn cyrch arfog ar ffordd yr A483 ger Wrecsam neithiwr, ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth A, gyrru ar ôl cael ei wahardd a gyrru peryglus.

Fe fu un o’r ffyrdd ar gyfnewidfa Ffordd Rhuthun ar gau am gyfnod tra oedd hyn yn mynd ymlaen.

Meddai’r Uwcharolygydd dros Dro Paul Joyce:

“Hoffwn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, ond roedd cau’r ffordd yn bwysig er mwyn diogelu’r cyhoedd.

“Hoffwn ddiolch i’r plismyn a ddeliodd â’r digwyddiad mewn ffordd broffesiynol gan arwain at arestio dyn am amryw o droseddau.”