Mae Trenau Arriva Cymru, Network Rail a Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn rhybuddio ffotograffwyr rhag defnyddio drôn yn rhy agos i reilffyrdd.

Daw’r rhybudd ar ôl i ddrôn achosi problemau wrth gael ei hedfan yn agos i drên yng ngogledd Cymru’n ddiweddar.

“Gallai’r ddyfais leiaf achosi perygl anferthol ar y rheilffordd pe bai’n gwrthdaro â thrên, taro ceblau neu dynnu sylw gyrwyr trên neu weithwyr cledrau,” meddai Martin Brennan ar ran Trenau Arriva Cymru.

“Mae’n hanfodol fod unrhyw un sydd â diddordeb mewn hedfan drôns yn cydymffurfio’n llawn â rheolau sy’n cael eu pennu gan yr Awdurdod Hedfan Sifil gan y gallai hedfan yn rhy agos i’r rheilffordd arwain at ddamwain ddifrifol.”

Mae’n drosedd hedfan drôn o fewn 50 metr i reilffordd, neu o fewn 150 metr mewn ardal drefol, a gall y rhai sy’n torri’r gyfraith wynebu dirwy o hyd at £2,500.